Nod Cylch Meithrin Y Waun Ddyfal yw meithrin plant hapus, hyderus, sy’n teimlo’n ddiogel yn eu hamgylchedd a’u cymuned. Mae’r cylch yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn amlddiwylliannol, amrywiol a llawn bywyd. Croesawn pawb o’n cymuned atom i dysgu trwy chwarae a cymdeithasu yn y Gymraeg o dan arweiniad staff proffesiynol, cymwys ac ymroddedig.

Gweithgareddau: 

Rydyn ni’n cynllunio ac yn cynnig gweithgareddau pwrpasol i'r plant ddatblygu pob agwedd ar eu datblygiad holistig – o ddatblygiad iaith a chymdeithasol, i ddatblygiad corfforol a datrys problemau.

Cynigwn weithgareddau megis; celf a chrefft, gweithgareddau cerddorol, garddio, chwarae yn yr ardd, coginio, â gweithgareddau adeiladu a chwarae rôl. Rydym yn dilyn a meithrin diddordebau'r plant gan gynnig ystod eang o gyfleoedd sy’n ennyn chwilfrydedd a ehangu gorwelion.

Oriau / Ffioedd:

(yn ystod y tymor yn unig)

Sesiwn 8:45yb - 12:30yp yn cynnwys cinio.

Cofleidio - cerdded i'r Ysgol 12:30 erbyn 12:55.

Ffioedd - £24.75 y sesiwn. £6 bws cerdded.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed). 

Mae 30 awr yn cynnwys:

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Cysylltwch â ni.

ebost: ymholiadau@cylchywaunddyfal.co.uk

Lleoliad:

St Michaels and All Angels Church,

Ffordd yr Eglwys Newydd,

Caerdydd,

CF14 6JJ